#

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-813

Teitl y ddeiseb: Gwahardd y DEFNYDD O FAGLAU LARSEN (trapiau sy’n dal mwy nag un frân)

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wahardd cynhyrchu, gwerthu a defnyddio maglau Larsen (maglau dal mwy nag un frân). 


Cawell a rennir yn sawl rhan yw magl Larsen; cedwir aderyn gwyllt byw (yr aderyn denu) yn gaeth mewn un rhan ohoni er mwyn denu adar eraill. Pan fydd aderyn arall yn glanio ar y fagl, mae’n disgyn i mewn trwy gât unffordd neu lawr ffug, lle y bydd yn aros ei dynged.

Dyfeisiwyd maglau Larsen yn Nenmarc, ond fe’u gwaharddwyd yn y wlad honno gan eu bod bellach yn cael eu hystyried yn bethau creulon iawn.


Ciperiaid a thyddynwyr sy’n defnyddio maglau Larsen yn bennaf, a hynny er mwyn dal pïod, brain ac aelodau eraill o deulu’r frân. Mae’n brofiad erchyll i’r aderyn gan iddo gael ei ddal ddydd a nos heb fwyd, dŵr na chysgod rhag y tywydd, ac mae hynny’n peri gofid eithafol. 

Oherwydd eu bod yn defnyddio aderyn gwyllt caeth (sy’n mynd yn groes, yn dechnegol, i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981) rhaid defnyddio’r maglau hyn o dan delerau “Trwydded Gyffredinol”, a geir gan Gyfoeth Naturiol Cymru, sy’n caniatáu dal pïod, brain, sgrechod y coed, corfrain, ac ydfrain.

Mae’n brofiad pur ofnadwy i’r “adar denu” gwyllt gan fod eu cyfyngu yn y modd hwn yn gamdriniaeth ac yn rhwystredigaeth o ran hanfodion eu hymddygiad. A hwythau’n agos i’r ddaear, mae ysglyfaethwyr yn codi braw arnynt a rhaid iddynt wylio wrth i adar eraill gael eu lladd mewn ffordd ddienaid o flaen eu llygaid. Mae sawl un yn marw trwy esgeulustod. 
O dan y gyfraith, dylai fod gan aderyn denu caeth fwyd, dŵr, cysgod a chlwyd, a dylid archwilio’r maglau o leiaf bob 24 awr, ond nid dyna sy’n digwydd. Rydym wedi gweld brain a adawyd i farw heb fwyd na dŵr, ac rydym wedi dod o hyd i gyrff adar denu yn pydru, a’r adar hynny wedi clymu’n barhaol â gwifrau hyd nes eu bod yn marw drwy newyn neu straen.
Rydym wedi gweld adar sydd wedi torri eu pigau ac wedi anafu eu pennau trwy geisio dianc.

Gwelsom greulondeb, llurgunio a chlwyfo lle mae’r cipar wedi torri plu hedfan yr aderyn denu i’w gadw rhag dianc.

Mae’r maglu yn digwydd trwy fisoedd yr haf ac, o’r herwydd, mae miloedd o gywion yn newynu i farwolaeth yn y nyth am fod y rhieni’n cael eu dal. 

Nid yw maglau Larsen yn gwahaniaethu; gallant ddal adar o bob math a mamaliaid. Weithiau, er ei bod yn anghyfreithlon, defnyddir colomennod er mwyn denu ac yna lladd adar ysglyfaethus. 

Mae dal adar gwyllt mewn maglau adar byw a defnyddio adar denu byw yn peri dioddefaint ofnadwy i’r adar anffodus.

 Rydym yn cymell rhoi stop ar y ffordd hon o erlid bywyd gwyllt.

 

Y cefndir

Math o drap cawell yw magl neu drap Larsen a chafodd ei gynllunio gan gipar o Ddenmarc (Christian Larsen) yn y 1950au, yn bennaf i ddal pïod. Caiff y trapiau eu cynllunio i ddal  pob aderyn o deulu’r frân (hy brain, pïod, sgrechod y coed, corfrain, ac ydfrain) a hynny unrhyw adeg o’r flwyddyn. Y fersiwn fwyaf cyffredin yw cawell giwboid, sydd â llawr sy’n mesur tua 80-100cm. Mae mecanwaith y trap yn cynnwys drysau ar sbring sy’n agor i bob rhan o’r gawell ac y gellir ei ddal ar agor â chlwyd wedi’i hollti. Caiff pioden neu frân (neu fwyd weithiau) ei gadw mewn un rhan o’r gawell i ddenu creaduriaid eraill sy’n gweld yr aderyn fel bygythiad i’w cynefin. Bydd adar mhac yn eu dal yn gaeth. Bydd yr adar yn cael eu dal yn fyw.

Delwedd o drap Larsen gan Roger Cornfoot. Trwyddedwyd o dan Creative Commons.


Yn 2016, cyhoeddodd Scottish Natural Heritage  adroddiad ar y defnyddio trapiau cawell i ddal adar o deulu’r frân yn yr Alban. Caiff yr adar hyn eu dal yn rheolaidd mewn nifer o wledydd fel ffordd o reoli plâu. Mae'r adroddiad yn dweud bod ffermwyr yn defnyddio’r trapiau i ddiogelu da byw, bwydydd anifeiliaid a chnydau; bod ciperiaid yn eu defnyddio i  ddiogelu adar bridio a'u cywion; a bod rheolwyr cadwraeth yn eu defnyddio weithiau am resymau tebyg. Mae'n dweud y defnyddir y trapiau i atal clefydau rhag lledaenu a hefyd i leihau’r perygl i adar wrthdaro ag awyrennau.

Trwydded gyffredinol

I ddefnyddio trapiau Larsen yng Nghymru rhaid cael  trwydded gyffredinol.  Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi trwyddedau cyffredinol i ganiatáu rhai gweithgareddau (a fyddai’n anghyfreithlon fel arall)  heb yr angen i wneud cais am drwydded benodol. Caiff pob trwydded gyffredinol ei rhoi at ddiben penodol ac mae rhai yn gyfyngedig i rywogaethau penodol yn unig.

O dan  Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981  (fel y'i diwygiwyd), bob blwyddyn, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddi   trwydded i ladd neu gymryd adar gwyllt penodol i atal difrod difrifol i amaethyddiaeth, coedwigaeth neu bysgodfeydd, neu i atal clefydau rhag lledaenu . Mae'r drwydded yn awdurdodi pobl i ymgymryd ag amrywiaeth o  weithgareddau i  adar sy’n perthyn i’r rhywogaethau penodol (brain, colomennod, corfrain, sgrechod y coed, pïod, colomennod y graig, ydfrain a sguthanod) drwy eu saethu, drwy ddefnyddio trap cawell neu rwyd neu drwy ddefnyddio dulliau eraill nad ydynt wedi’u gwahardd o dan Adran 5 o’r Ddeddf. Mae'r drwydded yn caniatáu’r gweithgareddau hyn os yw deiliad y drwydded yn sicr bod yr holl ddulliau cyfreithiol o reoli’r adar heb eu lladd, fel dulliau o’u dychryn neu eu hatal, naill ai’n aneffeithiol neu’n anymarferol.

Mae'r drwydded hefyd yn nodi bod yn rhaid i’r adar gael eu lladd yn gyflym a heb greulondeb. Mae hefyd yn nodi na ddylid lladd unrhyw aderyn sydd wedi’i gadw’n gaeth yng ngolwg adar caeth eraill. Un o amodau trwydded gyffredinol Cyfoeth Naturiol Cymru yw bod yn rhaid cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth yn ymwneud â lles anifeiliaid, gan gynnwys  Deddf Lles Anifeiliaid 2006 . Mae ymateb Llywodraeth Cymru i'r ddeiseb yn nodi bod dyletswydd gofal ar bawb sy’n cadw anifeiliaid i amddiffyn lles anifeiliaid yn eu gofal, boed yn barhaol neu dros dro. Mae'r drwydded hefyd yn nodi bod yn rhaid sicrhau bod adar denu’n cael digon o fwyd a dŵr bob amser, cysgod priodol a chlwyd addas y gall sefyll yn gyfforddus arni. Rhaid i bob trap cawell gael ei archwilio o leiaf unwaith y dydd,  a bob 24 awr o leiaf, oni bai bod hynny’n amhosibl oherwydd tywydd garw. Bob tro y caiff y trap ei archwilio, rhaid sicrhau nad oes adar neu unrhyw famaliaid eraill ynddo, yn fyw’n neu’n farw. Os oes anifail marw, gan gynnwys adar marw, yn y trap, rhaid ei dynnu ohono. Os nad yw’r trap yn cael ei ddefnyddio, rhaid ei symud o’r safle a’i storio fel nad oes modd ei ddefnyddio’n ddamweiniol. 

Mae nodiadau’r drwydded  yn nodi na ddylid defnyddio trapiau cawell yn ystod tywydd poeth neu dywydd oer iawn, neu pan fo’n rhesymol rhagweld tywydd o’r fath. Mae'n argymell y dylai unrhyw drap cawell a ddefnyddir o dan y drwydded fod â thag neu arwydd sy'n rhoi rhif y Swyddog Troseddau yn erbyn Bywyd Gwyllt lleol, ynghyd â chod unigryw a fyddai’n galluogi’r heddlu i ddod o hyd i’r perchennog.

O dan y Ddeddf, y gosb fwyaf am droseddu yw dirwy lefel 5 (£5000) a / neu ddedfryd o chwe mis yn y carchar.

 

Barn y rhanddeiliaid

Nid yw’r RSPB yn gwrthwynebu i bobl ddefnyddio trapiau Larsen, neu drapiau cawell eraill, i reoli piod ar safleoedd penodol cyhyd â’u bod yn cadw at union amodau’r drwydded gyffredinol. Mewn papur ar gyfer y  Gwasanaeth Ymchwil, dywedodd  RSPCA Cymru  fod ganddynt nifer o bryderon ynghylch defnyddio trapiau Larsen. Roedd yn cydnabod bod strwythurau cyfreithiol ar waith i reoleiddio'r defnydd o'r trapiau, ond mae'n awgrymu nad yw’r rheoliadau'n cael eu gorfodi'n effeithiol. Fel y nodwyd cynt, mae amodau'r drwydded yn caniatáu defnyddio trapiau o'r fath os yw’r holl ddulliau cyfreithiol o reoli’r adar, heb eu lladd, fel dulliau o’u dychryn neu eu hatal, wedi bod yn aneffeithiol neu’n anymarferol. Mae'r RSPCA yn pryderu nad yw’n ofynnol dangos i Gyfoeth Naturiol Cymru mai dyna’r achos cyn gweithredu o dan y drwydded. Maent yn awgrymu ei bod yn anodd cael tystiolaeth i ddangos bod personau awdurdodedig wedi cydymffurfio â'r amod hwn. Mae'n awgrymu y dylid newid y ddeddfwriaeth i wella’r broses o orfodi amodau’r drwydded, ac mae'n argymell y dylai trapiau o'r fath fod wedi'u cofrestru gyda'r heddlu lleol.

 

Y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi unrhyw ddatganiadau’n ymwneud â thrapiau Larsen. Fel y nodwyd uchod, mae trwyddedu ar gyfer gweithgarwch o'r fath yn cael eu gweinyddu gan Gyfoeth Naturiol Cymru o dan drwydded gyffredinol. Mae ymateb Llywodraeth Cymru i'r ddeiseb yn ailadrodd y wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y briff hwn. Mae'n dod i'r casgliad y dylai "anifeiliaid ac adar gael eu hamddiffyn a dylai'r rhai sy'n dewis torri'r gyfraith gael eu herlyn".

 

Y camau y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi’u cymryd

Hyd yn hyn, nid yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi trafod y defnydd o drapiau Larsen.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.